Apêl newydd gan Tarian Cymru
Mewn gwahanol ffurf, rydym oll wedi teimlo effaith coronafeirws ar ein bywydau yma yng Nghymru. Rydym ni oll hefyd yn ymwybodol fod coronafeirws yn bygwth iechyd difrifol ein cymdogion oddi cartref
Credwn fel trefnwyr Tarian Cymru y dylem ymateb i’r bygythiad sy’n wynebu’r cymunedau hyn ledled y byd.
Ni Yw Y Byd
Bwriad apêl Ni Yw Y Byd yw codi arian a chefnogi gwaith dyngarol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â’r coronafeirws yn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Cefnogwch yr apêl newydd
Galwad brys: helpwch bobl Yemen
Beth sydd wedi digwydd i apêl wreiddiol Tarian Cymru?
Mae holl arian yr apêl wreiddiol wedi ei wario ar roi offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru. Erbyn hyn mae’r awdurdodau yn darparu llawer mwy o offer i’r gweithwyr. Felly nid yw’r apêl wreiddiol yn derbyn unrhyw gyfraniadau newydd. Mae’n debyg bydd yr apêl yn dod i ben ond rydym yn monitro’r sefyllfa o ran darpariaeth o offer gwarchodol yng Nghymru am ychydig misoedd.
Nodwch fod arwahanrwydd llwyr rhwng gronfa’r apêl wreiddiol, a phrosiect newydd Ni Yw Y Byd.
Cysylltwch â Tarian Cymru os ydych chi wedi bod yn codi arian ac yn ansicr o ran beth i’w wneud, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ymarferol.
Mae holl drefnwyr Tarian Cymru / Ni Yw Y Byd yn gweithio ar sail wirfoddol ddi-dâl. Mae’r holl roddion yn mynd yn uniongyrchol i’r gwaith dyngarol.
Diolch o galon i chi am gefnogi apêl wreiddiol Tarian Cymru rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020.