Dros yr wythnosau mae Tarian Cymru wedi codi dros £91,000 er mwyn darparu a sicrhau cyflenwad angenrheidiol o PPE am ddim i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae dros 200,000 o eitemau wedi eu dosbarthu at weithwyr mewn 200 o wahanol sefydliadau ar draws Cymru.
Rydym wrthi’n dosbarthu’r darnau olaf o offer ac mae’r tudalen GoFundMe wedi cau.
Diolch o galon i chi am eich holl gefnogaeth, eich syniadau, eich brwdfrydedd ac am rhoi o’ch amser a’ch poced i’n helpu!
Diolch i bob busnes sydd wedi helpu ni i godi arian trwy ocsiwn, raffl, rhoi gwobrau neu drwy cyfrannu’n ariannol. A diolch i bob unigolyn hefyd sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol neu sydd wedi mynd ati i godi arian. Diolch i bob cerddor ac artist. Chi wir wedi gwneud gwahaniaeth!
Diolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o’r fenter, mae gymaint ohonoch! Yn codi arian, yn ffonio gweithwyr iechyd a gofal, yn gyrru ledled Cymru, yn pacio a llwytho ac yn gwneud gymaint mwy. Mae wedi bod yn siwrnau a hanner!! DIOLCH! Dyma luniau o rhai o’r pobol i ni wedi helpu. 😀
Cofiwch am ein menter newydd i helpu ein cymdogion oddi cartref i ymladd y feirws: Ni Yw Y Byd.