Y mis hwn mae Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd yn codi arian i gefnogi gwaith Tearfund yn Yemen.
Y gwir yw mae Covid yn un bygythiad ac un argyfwng ymhlith nifer yn y wlad hon.
Er bod y sefyllfa yn gwella yn araf bach yng Nghymru mae COVID19 yn parhau yn fygythiad enfawr i nifer o gymunedau ledled y byd a chredwn fel trefnwyr Tarian Cymru y dylem barhau i ymateb i’r bygythiad sy’n wynebu’r cymunedau hyn ac mae pobl Yemen angen ein cefnogaeth.