Mae apêl Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd angen i bobl fel chi fentro i godi mwy o arian.
Mae cyflawni her bersonol yn ffordd hwyl o gefnogi.
Mae bob ceiniog rydych chi’n gallu codi yn mynd ar y gwaith dyngarol.
Dyma ganllaw ar sut i drefnu her, sialens, neu stynt dros Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd a gwahodd ffrindiau a theulu i’ch noddi.
Dewis her
Dewiswch her, gweithgaredd neu gamp! Yn ddelfrydol byddai hi’n rhywbeth:
- rydych chi eisiau gwneud
- ac yn gallu gwneud
- rydych chi heb gyflawni o’r blaen
- sy’n sbarduno’ch ffrindiau a theulu i’ch noddi
- diogel
Mae rhai o’n cefnogwyr yn gwneud her ar y cyd fel tîm ac mae rhai yn dewis gwneud her fel unigolyn.
Dyma engreifftiau o heriau roedd pobl wedi gwneud dros apêl wreiddiol Tarian Cymru:
- taith beicio rithiol ar feic ymarfer corff
- siafio pen
- taith grŵp rithiol – cerdded, seiclo a rhedeg
- tynnu lluniau o’r gymuned
Pam ydw i eisiau tudalen codi arian?
Rydym yn argymell i chi greu tudalen newydd ar y we i godi arian.
Dyma fydd eich cartref ar gyfer codi arian, ac mae angen cyfeirio pobl at y tudalen yn aml. Bydd e’n le i chi gyflwyno eich her benodol a’ch targed, derbyn taliadau cerdyn wrth noddwyr, a rhannu diweddariadau.
Bydd yr arian yn mynd i’r elusennau yn awtomatig trwy system JustGiving. Nid oes angen delio gyda’r arian o gwbl.
Os nad ydych chi eisiau creu tudalen mae tudalen canolog Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd, ac mae opsiwn i chi ofyn i bobl gyfrannu yn syth yna. Yr anfantais yw bod y wybodaeth yna yn fwy cyffredinol. Mae’n well cael rhywle penodol i chi sôn am eich her ac eich targed chi!
Creu tudalen
Yn gyntaf mae angen gwirio os oes tudalen yn barod. Er enghraifft os ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithred grŵp efallai bod tudalen yn barod.
Dyma restr o’r holl dudalennau sy’n cefnogi Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd.
Os ydych chi yn bendant am greu tudalen, ewch amdani:
- Ewch i https://www.justgiving.com/team/tariancymruyemen
- Cliciwch ar ”Join the team”
- Dilynwch y cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.
Gosodwch darged. Dylai hi fod yn rywbeth cyrraeddadwy. Mae wastad modd cynyddu’r targed ar ôl ei gyrraedd.
Disgrifiwch yr her rydych chi’n bwriadu gwneud, a phryd chi’n bwriadu ei wneud.
Rhowch gwpl o luniau fyny. Mae dangos yr un mor bwysig a dweud. Peidiwch â bod yn swil!
Dwedwch yn glir fod yr holl arian yn mynd i apêl Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd.
Rhowch gyfeiriad gwe Tarian Cymru am ragor o wybodaeth.
https://tarian.cymru
Sicrhau noddwyr!
Bydd angen i chi hyrwyddo’ch her i ffrindiau, teulu, cyfeillion, cyd-weithwyr, cyn-cyd-weithwyr, cyn-athrawon, cyn-gyfreithwyr, cyn-gariadon, cyd-chwaraewyr, ac eraill!
Yn gyntaf dewiswch gwpl o bobl unigol sy’n agos atoch. Gofynnwch iddyn nhw gyfrannu arian yn syth – os oes modd. Bydd hi’n haws hyrwyddo apêl gydag ychydig yn yr ‘het’ yn barod. Y bunt gyntaf yw’r gam fwyaf… bydd pob un wedyn yn haws!
Mae ar-lein yn ffordd effeithiol o gyrraedd pobl:
- Postiwch ar unrhyw blatfformau cymdeithasol fel eich proffil Facebook, cyfrif Twitter, cyfrif Instagram ac ati. Mae fideo a lluniau yn ffyrdd da o denu sylw.
- Ar Facebook gallech chi ystyried creu digwyddiad neu grŵp ar gyfer eich her, ac wedyn gwahodd llwythi o bobl. Nodwch taw digwyddiad neu grŵp sydd orau achos mae’n anoddach cyrraedd pobl trwy ‘dudalen brand’ Facebook newydd sbon.
- Rhannwch y neges mewn grwpiau WhatsApp.
- E-bostiwch ffrindiau a theulu.
- Mae rhai gweithleoedd yn cynnal negesfwrdd, mewnrwyd neu sianel o ryw fath. Os nad ydych chi’n gwybod sut i rannu neges am eich her gofynnwch i’r person sy’n rheoli’r system os oes modd ei rhannu.
Cofiwch y ffyrdd canlynol o gyrraedd pobl:
- Ffonio pobl
- Eitem yn eich papur bro lleol neu negesfwrdd
- Cylchlythyr eich cor, tîm chwaraeon, cymuned ffydd
- Gofyn yn garedi i rywun dylanwadol neu enwog rannu’r neges ymlaen
Mae’n iawn i gyrraedd yr un person trwy ddulliau gwahanol. Bydd angen i rai o’ch cefnogwyr weld y neges mwy nag unwaith cyn mynd amdani a chyfrannu.
Mae JustGiving yn derbyn cardiau talu amlwg. Os mae rhywun eisiau’ch noddi tu allan i JustGiving nid oes modd hawdd o ddelio gyda hynny yn anffodus, ond maen nhw yn gallu talu yn uniongyrchol i’r elusen megis Cymorth Cristnogol.

Y gweithgaredd
Tynnwch lawer o luniau o’r her. Rhannwch y lluniau ar y we, tra’ch bod wrthi. Gofynnwch i rywun o’ch cartref helpu os oes angen.
Gallech chi ffrydio’r her yn fyw trwy Facebook, Instagram, neu wasanaeth arall – os ydych chi’n meddwl bod hi’n digon diddorol i’w gwylio!
Rydych chi’n gallu parhau i godi arian ar ôl cyflawni’r her hefyd.
Cofiwch ddweud diolch wrth noddwyr.
Diolch am gefnogi Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd! Pob lwc!
Neges bwysig ar ddiogelwch
Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch ac iechyd yn ystod yr her.
Dewiswch rywbeth sy’n ddiogel, sy’n caniatau i chi ddilyn y cyngor gorau o ran risg y feirws, a’r gyfraith.
Peidiwch â gwneud unrhyw beth i dorri rheolau ar ymbellhau corfforol neu unrhyw gyfraith arall.
Dydy Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd ddim yn gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd fel canlyniad i’ch gweithredoedd.
Nodwch fod cyfyngiadau’r cloi-lawr wedi ysbrydoli llawer o syniadau da hefyd, megis teithiau rhithiol!