Y Cwt Lleuad
- Bid wnaeth ennill: £1150.00
Dyma eich cyfle i fod yn berchenog ar Y Cwt Lleuad, caban cwbwl unigryw gafodd ei gynllunio a’i adeiladu gan y dylunydd Gwyn Eiddior yn arbennig ar gyfer rhaglen Lle Bach Mawr ar S4C.
Mae’r cwt wedi ei addasu o sied gardd arferol a’i drawsnewid i fod yn gaban bach clŷd a thrawiadol, y lle perffaith i ymlacio yn eich gardd tra’n syllu ar y lloer, y ser a’r planedau yn awyr y nos, neu i gael ysbaid yn ystodd y dydd.
Wedi ei ysbrydoli gan ffurf a siap y cerbyd lunar y gwaneth Neil Armstrong a’i griw lanio ar y lleuad, am y tro cyntaf dyma eich canolfan ofodol bersonol yn eich gardd! Lle i’r plant chwarae a dychmygu eu hunain fel gofodwyr yn y llwybr llaethog, neu man tawel i oedolion ymlacio ar ôl diwrnod caled.
Yn ogystal a ennill y caban ei hun, bydddwn hefyd yn trefnu i ddod i’w adeiladu yn eich gardd.
Y manylion
Mae’r caban wedi ei wneud o bren, yn cynnwys sied ardd ‘flat-pack’ wedi addasu gyda tô plastig clir, wedi osod ar lwyfan o ‘decking’ pren pwrpasol uwchben y llawr. Mae’r holl strwythyr wedi osod ar goesau pren all gael ei godi ar dir gwastad neu anwastad. Gall y caban gael ei ail-osod ar goesau hyd at 1.2mtr / 4troedfedd o’r llawr, fodd bynnag gallwn ei osod yn llawer agosach i’r ddaear pe bai angen, e.e. er mwyn i blant ifanc allu defnyddio y caban yn ddiogel.
Mae’r caban ei hun yn;
Lled/Width – 2.4mtr / 8 troedfedd
Dyfnder – 1.8mtr / 6 troedfedd
Uchder – 2.4mtr / 8 troedfedd
Gyda’r Llwyfan Decking a’r grisiau;
Lled/Width – 2.7mtr / 9 troedfedd
Dyfnder [heb grisiau] 3.7mtr / 12 troedfedd
Dyfnder [gyda grisiau] – 4.5mtr / 15 troedfedd
Uchder – hyd at 3.7 mtr / 12 troedfedd
Mae drws i mewn i’r caban, 3 ffenestr a to clir ‘corrugated acrylic’.
Nid yw’r Cwt Lleuad yn cynnwys y dodrefn a’r goleuadau a welwch yn y bennod hon o Lle Bach Mawr, ond gall Gwyn Eiddior roi cyngor a sut i’w adddurno a ble i brynu goleuadau ac addurniadau.
Ar ôl i Gwyn Eiddior drefnu i osod Y Cwt Lleuad a sicrhau fod hyn yn cael ei wneud yn gadarn a diogel yna cyfrifoldeb y prynwr fydd cynnal a chadw y caban [gan gynnwys trin ac amddiffyn y pren] a sicrhau diogelwch y strwythyr.
Costau symud a gosod
Yn ogsystal a gwerth y ‘bid sy’n ennill’ bydd taliad ychwanegol am gostau symud y caban yn ddyledus. Codir tal o 80c y filltir o Garndolbenmaen i leoliad newydd Y Cwt Lleuad.
Fel arall os yw’r modd gennych i ddod i nol y cwt eich hunan Garndolbenmaen gallwn drefnu hyn.
Yr achos
Bydd holl gost y cwt yn cael ei gyfrannu at Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd – yn helpu cymunedau o gwmpas y byd yn ystod Covid.
Bidio
Bid uchaf: £1150.00
E-bostiwch eich bid i
post@tarian.cymru
Yr ennillydd fydd y person gyda’r bid uchaf (cyn belled bod hyn yn uwch na’r pris wrth gefn) ar:
nos Llun 24ain Awst 2020 am 7PM.
Dyma’r amser a dyddiad cau. Ni fydd unrhyw fid ar ôl hynny’n cael ei ystyried. Pob lwc!